UCAC
Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru

Mae UCAC yn undeb ar gyfer athrawon, penaethiaid, darlithwyr a thiwtoriaid dros Gymru gyfan – yr unig undeb addysg sy’n rhoi addysgwyr Cymru’n gyntaf.

Rydyn ni’n cyfuno gwasanaeth ar lefel bersonol gyda grym undebol nerthol wrth ddylanwadu ac ymgyrchu.

Rydyn ni’n angerddol ynghylch cefnogi ac amddiffyn ein haelodau, ac ynghylch gweithio er budd system addysg sy’n gwbl addas i anghenion Cymru a phawb sy’n byw yma. 

ATHRAWON DAN HYFFORDDIANT

AELODAETH AM DDIM

Os ydych chi’n hyfforddi i fod yn athro, mae UCAC yn cynnig aelodaeth am ddim i chi trwy gydol eich hyfforddiant.

Felly os ydych chi’n gwneud gradd BAdd, cymhwyster ôl-radd fel TAR (PGCE), neu’n gwneud doethuriaeth ac yn gwneud rhywfaint o addysgu, dewch i ymuno AM DDIM i dderbyn gwasanaeth llawn.


ATHRAWON NEWYDD GYMHYWSO

BLWYDDYN O AELODAETH AM DDIM
gyda'r flwyddyn ganlynol yn hanner pris

Os ydych chi’n Athro Newydd Gymhwyso, mae UCAC yn cynnig aelodaeth am ddim trwy gydol eich blwyddyn addysgu gyntaf, ac yn hanner pris y flwyddyn ganlynol.

Felly os ydych chi newydd gymhwyso, a heb ymaelodi’n barod, dewch i ymuno AM DDIM i dderbyn gwasanaeth llawn.

Os ydych chi'n ymuno am y tro cyntaf
Os ydych chi'n aelod yn barod

NEWYDDION

CYFLE I GAEL GRANT I'CH YSGOL

Mai 2025 

Mae Race Council Cymru yn falch o gyhoeddi bod ceisiadau nawr ar agor ar gyfer Grant Windrush 2025. Mae'r grant hwn yn cefnogi sefydliadau yng Nghymru i ddarparu digwyddiadau a gweithgareddau i ddathlu cyfraniadau’r Genhedlaeth Windrush. Mae modd cael hyd at £1,500 i gefnogi eich prosiect.  Er mwyn cael gwybodaeth bellach a ffurflen gais, ewch i:

https://racecouncilcymru.org.uk/national-windrush-day-2025-windrush-cymru-77-grant-application

Peidiwch ag oedi - mae ceisiadau'n cau ar 11 Mai, 2025

RECRIWTIO A CHADW ATHRAWON - HOLIADUR

Ebrill 2025 

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Senedd Cymru yn cynnal ymchwiliad i Recriwtio a Chadw Athrawon yng Nghymru. Gofynnwn yn garedig am eich cefnogaeth i gwblhau'r arolwg hwn er mwyn iddynt allu casglu gwybodaeth werthfawr ynglŷn â sut mae recriwtio a chadw staff yn effeithio ar athrawon a disgyblion. 

Er mwyn llenwi'r holiadur, dilynwch y ddolen isod: 

 

Ymholiad Recriwtio a Chadw Athrawon

Os oes angen i chi dderbyn yr arolwg mewn fformat hygyrch, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, e-bostiwch Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.