CYNHADLEDD UCAC NANT GWRTHEYRN 2026

Mai 2026 

PENDERFYNIADAU CYNHADLEDD  FLYNYDDOL UCAC

Cafwyd trafodaethau brwd ar ystod eang o bynciau yng Nghynhadledd UCAC yn Nant Gwrtheyrn yn ystod penwythnos 17-18 Ebrill 2026.  Ymysg y pynciau a drafodwyd, roedd

  • Deallusrwydd Artiffisial (AI) a’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dysgwyr ac athrawon yn sgil y dechnoleg newydd
  • statws cyrsiau galwedigaethol a phwysigrwydd y Gymraeg o fewn y cyrsiau hynny
  • cyfyngiadau cyllidol
  • maint dosbarthiadau
  • sut mae denu a chadw athrawon yn yr hinsawdd bresennol
  • diffyg hyblygrwydd swydd athro a sut mae mynd i’r afael â hynny
  • ffonau symudol mewn ysgolion
  • ymddygiad disgyblion
  • bwyd ysgol

Mae modd gweld manylion pob cynnig a'r penderfyniadau drwy ddilyn y ddolen hon.