TGAU CYMRAEG Iaith a Llenyddiaeth - CYFLE I FYNEGI BARN
Mehefin 2026
Mae nifer o'n haelodau wedi mynegi pryderon am y llwyth gwaith ychwanegol sydd ynghlwm wrth y cymwysterau TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg (Gradd Unigol a Dwyradd) newydd. Mae UCAC wedi codi pryderon ein haelodau gyda'r bwrdd arholi. Yn sgil y pryderon sydd wedi eu mynegi, mae CBAC yn ystyried rhai newidiadau posibl ac yn gofyn am adborth rhanddeiliaid ar yr opsiynau hyn. Anogwn ein haelodau i ddarllen am yr opsiynau posibl ac i ymateb i'r arolwg. Er mwyn darllen mwy am y cynigion, dilynwch y ddolen isod:
Dweud eich dweud! Cyfrannwch eich llais at ddyfodol TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg
Er mwyn ymateb i'r arolwg, ewch i:
https://www.surveymonkey.com/r/5JWJCR3
Gwnewch yn siŵr eich bod yn manteisio ar y cyfle hwn i ddweud eich barn!