Pryder mawr ynghylch Saesneg orfodol

29 Ionawr 2019

Pryder mawr ynghylch Saesneg orfodol

Mae undeb addysg UCAC wedi codi pryderon ynghylch un o gynigion Papur Gwyn Llywodraeth Cymru am y cwricwlwm newydd, ‘Cenhadaeth Ein Cenedl: Cwricwlwm Trawsnewidiol’.

Dywedodd Rebecca Williams, Is-ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Mae’r cynnig yn y Papur Gwyn i wneud y Saesneg yn bwnc gorfodol ar gyfer disgyblion 3-16 oed yn destun pryder sylweddol iawn, a hynny mewn perthynas â’r Cyfnod Sylfaen yn benodol.”

Mewn cylchoedd meithrin ac ysgolion cyfrwng Cymraeg mae ‘trochi’ plant – o bob cefndir ieithyddol - yn yr iaith Gymraeg wedi bod yn effeithiol dros ben o ran caniatáu iddynt ddod yn rhugl yn yr iaith. Mae’r Saesneg yn cael ei gyflwyno’n raddol o 7 oed ymlaen, gyda’r plant yn dod yn ddwyieithog bron yn ddiymdrech.

Dywedodd“Mewn sefyllfa fel yng Nghymru ble mae iaith leiafrifol yn cydfyw ag un o ieithoedd fwyaf grymus y byd, dyma’r model sy’n llwyddo orau i oresgyn yr anghydbwysedd grym. Mae’n rhoi gafael cynnar a naturiol ar y Gymraeg i’r plant tra’n caniatáu iddynt ddatblygu eu sgiliau Saesneg yn llawn hefyd.  

“Mae’r cynnig yma’n bygwth y drefn hynod effeithiol sy’n bodoli ar hyn o bryd ac yn mynd yn gwbl groes i bolisi Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Mae’n bwysig yn ogystal tynnu sylw at y ffaith nad yw’r cynnig yn dod o adroddiad Yr Athro Graham Donaldson ‘Dyfodol Llwyddiannus’ – sy’n sail ar gyfer y diwygiadau i’r cwricwlwm.

“Galwn ar Lywodraeth Cymru i gynnig eglurhad cyn gynted â phosib.”

DIWEDD

Nodiadau

Am fanylion pellach cysylltwch â:

  • Rebecca Williams: 07787 572180 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Cyfarfod 'Teachers Working Longer Review'

10 Ionawr 2019

Cyfarfod 'Teachers Working Longer Review'

Ers 2014 mae UCAC wedi bod yn cyfarfod yn gyson  gyda Llywodraeth San Steffan i drafod oblygiadau'r newid mewn pensiynau athrawon ac effaith hynny ar yr angen i athrawon weithio'n hirach ac yn hynach.

Roedd yr Ysgrifennydd Cyffredinol, Dilwyn Roberts-Young, yn bresennol mewn cyfarfodydd ar Ddydd Mercher, Ionawr 9fed ble roedd trafodaeth am y modd y gall argymhellion adroddiad y Working Longer Review gefnogi athrawon yn ystod eu gyrfa.

Mae'r Undeb wedi eisoes wedi adrodd ar yr adroddiad a'r her nawr yw creu diwylliant yn yr ysgolion, yr awdurdodau, yn rhanbarthol a chenedlaethol sy'n gefnogol i'n hathrawon.

Bwriad UCAC yw galw am gyfarfod gyda Llywodraeth Cymru, sydd hefyd yn bresennol yn y cyfarfodydd, i ystyried yr argymhellion yng nghyd-destun datblygiadau yng Nghymru.

Ar y prynhawn roedd cyfarfod pellach gyda gweision sifil, cynrychiolwyr y cyflogwyr a chynrychiolwyr yr undebau i drafod llywodraethiant y pensiwn. UCAC yn unig oedd yn sicrhau llais i athrawon Cymru yn y cyfarfod.

Am fanylion pellach cysylltwch â:

Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. / 01970 639950

Croesawu ymagwedd newydd at ieithoedd

25 Ionawr 2019

Croesawu ymagwedd newydd at ieithoedd

Mae undeb addysg UCAC wedi ymateb yn gadarnhaol i gyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch lle ieithoedd yn y cwricwlwm newydd.

Dywedodd Rebecca Williams, Is-ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, “Trwy osod y Gymraeg a’r Saesneg ochr yn ochr â Ieithoedd Rhyngwladol yn y cwricwlwm, rydym yn agor y drws i ymagwedd newydd at ddulliau dysgu ieithoedd. Yn ogystal, gallai hyn roi pwyslais newydd ar werthfawrogiad o amrywiaeth diwylliannol a ieithyddol yn fwy cyffredinol.

“Mae wedi bod yn amlwg ers tro byd bod angen dechrau dysgu ieithoedd i blant yn gynharach, felly mae croeso i’r cynnig hwnnw ar yr amod y daw cyfleoedd hyfforddiant digonol i staff.

“Yn yr un modd, mae adroddiadau fel un yr Athro Sioned Davies wedi’i wneud yn glir bod angen gwella dulliau dysgu’r Gymraeg yn enwedig mewn ysgolion sy’n dysgu drwy gyfrwng y Saesneg yn bennaf. Ac mi fydd galw am ragor o hyfforddiant, o wahanol fathau, ar fyrder i wireddu hynny hefyd.

“Bydd y cwricwlwm newydd yn pwysleisio sgiliau cyfathrebu ac yn rhoi cyfleoedd i ddatblygu’r sgiliau hynny ar draws y cwricwlwm gyfan – tu hwnt i wersi iaith – a thu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Mi fydd yn cydnabod bod pawb ar ‘gontinwwm’ o ran sgiliau iaith ym mha bynnag iaith sydd dan sylw – boed yn Saesneg, Cymraeg neu iaith ryngwladol arall.

“Fel undeb, byddwn yn pwyso ar Lywodraeth Cymru am wybodaeth fanwl ynghylch y trefniadau asesu, ac yn bennaf ynghylch y cyfleoedd am hyfforddiant, dros y misoedd i ddod.”

DIWEDD

Nodiadau

  • Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn un o brif undebau addysg Cymru. Mae’n cynrychioli athrawon, penaethiaid a darlithwyr ym mhob sector addysg yng Nghymru.

Am fanylion pellach cysylltwch â:

  • Rebecca Williams: 07787 572180 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Gwefan meddwl.org

17 Rhagfyr 2018

Gwefan meddwl.org

Mae gwefan meddwl.org yn cynnig ‘lle i gael cefnogaeth, dysgu am anhwylderau iechyd meddwl gwahanol, darllen am brofiadau eraill a chael gwybodaeth am ble i gael cymorth – i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg’.

Cafodd y wefan ei sefydlu ym 2016 ac mae’n cael ei chynnal gan gr?p o wirfoddolwyr mewn ymateb i’r ‘prinder gwasanaethau a deunyddiau iechyd meddwl yn Gymraeg’.Mae’n adnodd eithriadol o ddefnyddiol sy’n gyfraniad pwysig i’r drafodaeth ar iechyd meddwl ac yn cynnig cefnogaeth ‘i oresgyn yr anawsterau a’r heriau a fydd yn ein hwynebu ni i gyd ar adegau’n ystod ein bywydau - i fod â hyder a hunan-barch ac i allu credu’n ein hunain’.

Fel y dywed y wefan, mae gan bawb ‘iechyd meddwl’ - mae gan bob un ohonom ‘gorff ac ymennydd, ac felly mae gennym i gyd iechyd corfforol ac iechyd meddwl’. Mae’r wefan yn cydnabod y gall fod yn ‘anodd iawn meddwl eich bod chi, aelod o’ch teulu neu ffrind yn profi problemau iechyd meddwl, ond mae’n hynod bwysig i geisio peidio â’i gadw i chi’ch hun; bydd rhannu yn helpu’. 

Mae’r wefan yn rhoi ystyriaeth i wahanol gyflyrau gan gynnwys strategaethau er mwyn ymdopi gyda gwahanol agweddau ar iechyd meddwl. Ceir mynegbyst i’r cymorth sydd ar gael gan wahanol fudiadau ac mae gwybodaeth megis dyddiau allweddol yn y flwyddyn i godi ymwybyddiaeth o ymgyrchoedd yn ymwneud â iechyd meddwl yn fuddiol a diddorol.

Rwy’n eich annog i bori trwy adrannau o’r wefan ble mae unigolion yn rhannu eu profiadau ar ffurf straeon, erthyglau, myfyrdodau, cerddi a chyflwyniadau fideo. Mae UCAC yn annog ein haelodau i gyfrannu at y wefan – gallwch rannu eich profadau’n hollol ddienw –byddai’r cyfraniad hwnnw’n un hynod o werthfawr.

Mae gwefan meddwl.org yn adnodd y dylai bob athro a darlithydd fod yn ymwybodol.

Am fanylion pellach cysylltwch â:

 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. / 01970 639950

Cyfarfod Fforwm Polisïau Cymru

13 Rhagfyr 2018

Cyfarfod Fforwm Polisïau Cymru

Ar Ddydd Gwener, Rhagfyr 12fed roedd Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, Dilwyn Roberts-Young, yn siarad mewn cyfarfod ar y camau nesaf i’r gweithlu addysgu yng Nghymru oedd wedi ei drefnu gan Fforwm Polisi Cymru.

Roedd ei gyflwyniad yn canolbwyntio ar yr angen i roi ystyriaeth lawn i les ac iechyd athrawon ac i fynd i’r afael â’r llwyth gwaith affwysol sy’n llethu’r proffesiwn.

Cyfeiriodd at ymchwil gan Lywodraeth San Steffan, gan elusen yr Education Partnership a chan yr Undeb ei hun sy’n dangos bod athrawon ac arweinwyr yn gweithio ymhell y tu hwnt i reolau’r Working Time Regulation.

Nododd adroddiad pellgyrhaeddol ar les ac iechyd, gan yr Institution of Occupational Safety and Health (IOSH), oedd yn nodi mai’r cyflogai yw’r ‘ased mwyaf gwerthfawr’ a bod angen ‘ymagwedd gyfannol (holistic) at les’ isicrhau staff ‘ysgogol, yn gorfforol ac yn seicolegol, ac yn wydn'.

Rydym mewn cyfnod o newid mawr yn y byd addysg ac mae adeg o newid yn gosod straen enfawr ar y gweithlu. Dyma adeg ble mae angen sicrhau parch ac ymddiriedaeth ac er mwyn i hynny ddigwydd mae gwerth ystyried egwyddorion sy’n cael eu hamlinellu gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ac yn nodi pwysigrwydd:

siarad gyda’n gilydd; gwrando ar bryderon ein gilydd; codi pryderon a datrys problemau gyda'n gilydd; ceisio a rhannu barn a gwybodaeth; trafod materion mewn da bryd; ystyried beth sydd gan bawb i'w ddweud; gwneud penderfyniadau gyda'n gilydd.

Mae’r ddogfen Addysgu: Proffesiwn Gwerthfawr yn datgan yr angen i:

  • ddatblygu hyder ac ennill ymddiriedaeth y cyhoedd;
  • fynd i’r afael â llwyth gwaith;
  • sicrhau arweinyddiaeth hyderus.

Yn sicr, bydd yr adroddiad yn destun trafod a dadlau ond rydym mewn cyfnod ble mae gwir angen newid yn y diwylliant sydd ar brydiau’n llethol o ran y pwysau gwaith ac atebolrwydd. Mae datganoli cyflogau ac amodau gwaith yn gyfle i edrych o’r newydd ar addysgu a dim ond wrth wneud hynny mae modd i ni ddenu athrawon newydd i’r proffesiwn.

Am fanylion pellach cysylltwch â:

 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. / 01970 639950