Covid 19 - Ymgysylltu â rhanddeiliaid

15 Gorffennaf 2020


Mae’r coronafeirws wedi cael effaith sylweddol ar bob gwlad yn y byd, gan gynnwys Cymru. Yn ogystal â'r risgiau i iechyd, mae swyddi mewn perygl, mae cyllid cyhoeddus mewn perygl ac mae ein cymunedau bregus mewn perygl hefyd.

Adfer o’r argyfwng iechyd cyhoeddus yma yw’r her fwyaf yr ydym wedi ei hwynebu erioed fel Llywodraeth ddatganoledig. Bydd y gwaith hanfodol hwn yn effeithio ar bob agwedd ar fywydau pobl Cymru, ac fe fydd o bwysigrwydd mawr i wasanaethau cyhoeddus, yr economi
ac i gymdeithas.

Nid oes unrhyw amheuaeth ein bod yn wynebu heriau enfawr, na welwyd eu tebyg o’r blaen. Wrth i ni greu cynllun ar gyfer adfer ac ailadeiladu, bydd ein dull gweithredu yn parhau i fod yn seiliedig ar yr un gwerthoedd - ymrwymiad at gyfiawnder cymdeithasol,
economaidd ac amgylcheddol – ac fe fyddwn yn parhau i ystyried y genhedlaeth fydd yn ein dilyn ynghyd â'r rhai sy'n byw drwy Covid19,
o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Mae ein gwerthoedd yn aros yr un fath, ond bydd angen i ni fod yn ddewr ac yn radical wrth i ni roi’r polisïau yr ydym eisoes wedi eu
sefydlu ar waith yn y sefyllfa newydd a fydd o’n blaen ar ôl Covid-19. Ni fydd llawer o'r pethau sydd wedi gweithio yn y gorffennol yn
addas at y diben mwyach. Bydd angen i ni ddangos hyblygrwydd a dychymyg wrth werthuso ein dulliau gweithredu presennol ac wrth ddatblygu rhai newydd. Dyna pam, yn ogystal ag edrych i mewn ar y Llywodraeth, yr ydym hefyd yn benderfynol o edrych tuag allan
er mwyn herio ein hen ffyrdd o feddwl, ac i gael ysbrydoliaeth ffres.

Rydym yn gwahodd pobl Cymru i anfon eu syniadau atom ynghylch sut y dylem adfer ac ailadeiladu ar ôl Covid-19 yn y dyfodol yng Nghymru. Mae gennym gyfeiriad e-bost penodol – Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. – ac fe hoffem glywed eich barn ynghylch sut y gallwn
lywio ein dyfodol yng Nghymru. Hoffem glywed gan bobl Cymru am yr hyn sy'n wirioneddol bwysig, a ble y dylem ganolbwyntio ein hymdrechion ar gyfer adferiad. Rydym yn gofyn i bobl roi eu sylwadau erbyn diwedd mis Gorffennaf. Nid dyna fydd diwedd y sgwrs genedlaethol dyngedfennol hon, o bell ffordd, ond rydym am helpu i ganolbwyntio ymdrechion pobl i gyfrannu at ein dealltwriaeth a'n meddylfryd yn y camau cynnar hyn.

Diolch.

 

Croeso i ddisgyblion ac i fuddsoddiad

9 Gorffennaf 2020

Mae undeb addysg UCAC wedi ymateb i ddatganiad y Gweinidog Addysg heddiw ynghylch ail-agor ysgolion ym mis Medi.

Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: “Mae penaethiaid ac athrawon wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod trefniadau’r cyfnod ail-agor ysgolion yn creu amgylchedd diogel i ddisgyblion. Mae hyn yn adeiladu ar y gwaith sydd wedi digwydd trwy gydol y cyfnod pan oedd ysgolion ar gau.

“Gyda datganiad y Gweinidog Addysg gallwn fynd ati i groesawu disgyblion yn ôl i’n hysgolion ym mis Medi ac rydym yn edrych ymlaen at weld cyhoeddi’r canllawiau ar gyfer ail-agor. Fodd bynnag, gyda’r canllawiau’n cael eu cyhoeddi mor hwyr yn y dydd bydd angen peth amynedd wrth baratoi ar gyfer yr ail-agor yn ystod wythnosau cyntaf tymor yr hydref.

Darllen mwy

Safbwynt UCAC ynghylch wythnos 20-24 Gorffennaf

23 Mehefin 2020

Daeth rhes o gyhoeddiadau gan Awdurdodau Lleol o nos Wener 19 Mehefin ymlaen a dros y penwythnos ynghylch eu trefniadau ar gyfer yr wythnos ‘ychwanegol’ o dymor cyn yr haf, sef 20-24 Gorffennaf.

Yn sgil y datganiadau hynny, a’r ffaith bod rhai ohonynt wedi cyfeirio at ‘yr undebau’, rydym am ddatgan safbwynt UCAC yn glir.

  • Nid yw UCAC ar unrhyw adeg wedi gwrthwynebu neu ymgyrchu yn erbyn agor ysgolion yn ystod yr wythnos 20-24 Gorffennaf; nid yw ychwaith wedi ymgyrchu o blaid
  • Mae UCAC wedi amlinellu cyfres o faterion ymarferol y byddai angen eu hystyried a’u datrys er mwyn agor ysgolion yn ystod yr wythnos ychwanegol, neu petai’r flwyddyn ysgol yn cael eu hamrywio mewn unrhyw ffordd
  • Y gwirionedd yw mai’r Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru sydd wedi methu dod i gytundeb ar y mater hwn, nid yr undebau a Llywodraeth Cymru

Darllen mwy