Diweddariad i staff Addysg Uwch: COVID-19
26 Mawrth 2020
Diweddariad i staff Addysg Uwch: COVID-19
Mewn amser o ansicrwydd enbyd ym myd addysg a thu hwnt mae UCAC yma i chi fel gweithwyr yn y sector addysg uwch.
Cymwysterau
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan na fydd cyfres arholiadau’r haf (TGAU a Safon Uwch) yn digwydd. Bydd rhagor o wybodaeth i ddilyn ynghylch cymwysterau eraill.
Fodd bynnag, caiff graddau eu dyfarnu ar sail amrywiaeth o dystiolaeth sydd eto i’w benderfynu’n derfynol. Yn naturiol, bydd hyn yn effeithio ar drefniadau mynediad ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Mae Llywodraeth Cymru’n trafod y sefyllfa gyda UCAS a HEFCW, ac yn gofyn i sefydliadau Addysg Uwch i beidio newid eu cynigion i fyfyrwyr dros y pythefnos nesaf i sicrhau sefydlogrwydd.
Ceir datganiad llawn y Gweinidog Addysg yma:
https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-datganiad-ar-gyfres-arholiadaur-haf